Logo Canolfan Ynni Gwyrdd

'Change that old boiler for a new efficient condensing boiler and save ££ on heating bills.'

For information or a Free estimate call: 01248 671976

Adref

Gwres o'r ddaear

 

Ydi eich boiler chi yn ddrud iw redeg?


Os yw’n 10-15 mlwydd oed felly mae’n debygol ei fod. Fe allwch arbed hyd at druan ar eich biliau tanwydd drwy newid yr hen foiler am foiler newydd sy’n ‘condensing’. Gyda un o’r boileri newydd yma gallwch arbed hyd at £130 y flwyddyn. Os y gosodwch chi set gyfan o reolwyr gwres hefyd gallwch gynyddu’r arbediad arian i hyd at £250 y flwyddyn.

Boileri


Mae boiler syn ‘condensing’ yn cyfnewid 90% o’r tanwydd maent yn ei ddefnyddio i wres, o’i gymharu a thua 60% y mae hen foileri yn ei gyfnewid. Os buasai pawb sy’n gallu newid eu hen foileri am rhai ‘condensing’ buasai y CO2 yn cael ei leihau mwy na 12 miliwn o dunelli a buasai digon o ynni i wresogi pob ty yn yr Alban am flwyddyn yn cael ei arbed.

Rheolwyr gwres - Heating controls

Mi ddyliau system gwresogi sydd yn cael ei reoli yn gywir gael y canlynol:
• programmer a room thermostat,
• Thermostatic radiator valves (TRVs).


I wresogi eich ty mewn ffordd effeithlon mae’n bwysig gwastraffu gyn lleiad o danwydd a gwres ag sy’n bosib – felly mae set gyfan o reolwyr gwres yn bwysig iawn ac yn eich galluogi i neud hynny. Mewn gwirionedd buasai gosod y rheolwyr cywir yn gallu arbed hyd at 15% arall oddi ar eich bil tanwydd, felly buasai gosod boiler condensing ynghyd a set cyfa o reolwyr gwres yn gallu arbed cyn gymaint a 45% oddi ar eich costau tannwydd sef tua £250 y flwyddyn.

Installing a condensing Boiler or Heating Controls


Mi all boiler Condensing neu dim ond reolwyr gwres newydd gael eu gosod yn eitha hawdd a di-drafferth ar rhan fwyaf o systemau gwresogi hen a newydd. Rydym yn cynnig gwasanaeth gosod cyflawn, gan un o’n peirianwyr cymwys. Holwch un o’r staff fydd yn fwy na pharod i roi gwybodaeth i chwi.

 

Cofiwch gallwch arbed hyd at 30% oddi ar eich costau gwresogi gan newid y boiler. A hyd yn oed arbed hyd at 15% arall gan adio rheolwyr gwres i’r system – Arbediad posib o 45%.

 

Boileri "Condensing" Effeithiol Iawn.


Mae boileri Condensing yn cael eu galw’n hynny oherwydd wrth losgi tanwydd maent yn condensio, mewn geiriau eraill meant yn cymryd y gwres o’r nwy gwastraff a fuasai fel arall yn mynd allan drw’r ffliw – ac yn newid y ‘vapour’ sy’n dod o losgi’r nwy yn ol i hylif.

Mae’r boileri yma mor effeithiol oherwydd bod y ‘heat exchanger’ wedi ei ddylunion fwy o faint nag y rhai yn yr hen foileri.

Mae’r heat exchanger yn gwneud yn siwr bod cyn gymaint o wres a phosib yn cael ei gyfnewid o’r broses llosgi tanwydd – a chyn lleiad a phosib yn cael ei golli fel nwy drwy’r ffliw.

Mae yna ddau fath o foiler: Un cyffredin ag un combi. Mae un cyffredin yn cynhesu eich dwr poeth drwy ddefnyddio silinder dwr poeth ar wahan. Mae biler Combi yn cynhesu’r dwr poeth yn ol y gofyn ac ar ei union, heb yr angen am silinder ar wahan.

Mi fydd aelod o’r staff yn fwy na pharod i siarad gyda chwi am pa fath sy’n addas i chwi; un cyffredin yntau un combi.

 

Rheolwy'r Gwres - 'Thermostats'

Mae defnyddio rheolwyr gwres yn ffordd hawdd o gadw eich ystafelloedd yr union dymheredd yr ydych chi’n ei weld yn gyffyrddus. Hefyd mae hyn yn gallu arbed arian oddi ar eich bil tanwydd.

Yr oll mae’r rheolwyr gwres yn ei wneud yw galluogi i chwi benderfynu pryd yr ydych eisiau y gwres i fod ymlaen, a pha dymheredd, a ble yr ydych eisiau fod yn gynnes. Yn bwysig hefyd maent yn gwneud yn siwr nad yw’r boiler ymlaen ond pan mae’r angen iddi fod.

 

        Canolfan Ynni Gwyrdd - 01248 671976 - post@canolfan-ynni-gwyrdd.com