-Sut mae'n gweithio?
- Peipiau UFH
- Y Manifold
- Pam dewis system UFH?
Sut mae’n gweithio?
Gwresogi tan llawr neu UFH yw’r ffordd modern ag effeithilon o wresogi ty neu unrhyw adeilad. Mae dwr cynes (tua 50 gradd C) yn cael ei bwmpio yn gyson trwy’r peipiau sydd wedi eu gosod o dan y llawr mewn cylch; mae hyn yn golygu bod y llawr yn cynhesu ac yn cynhesu’r ystafell fel un radiadur mawr.
Maer adeilad yn cael ei ranu i wahanol sectorau neu 'zones.' Mae un sector yn gyfystur ac un ystafell fel rheol. Mae pob sector yn cael ei gynhesu gan un cylch; sydd yn dechrau ac yn gorffen efo’r manifold. Mae hyn yn golygu; yn bwysig iawn na un peipan gyfa yw bob ‘cylch’.
Oherwydd ei faint bychan gall y manifold gael ei leoli yn ganolog i ’r adeilad; mewn cwpwrdd bychan er engraifft. Mae’r dull yma o wresogi nawr mor boblogaidd; mae’n cael ei ddefnyddio mewn miliynau o adeiladau drwy Ewrop ac yn wir y byd. Mae'n galluogi cynhesu adeilad mewn ffordd effeithlon, braf, ac effeithiol.
Peipiau UFH
Mae’r peipiau yr ydym yn ei ddefnyddio wedi eu gwneud o 5 haen gwahanol, sydd yn cyfuno manteision Aliminiwn a phlastig ag yn diystyru an-fanteision y ddau ddeunydd ar yr un pryd. Yn bwysig iawn mae’r haen Aliminiwm yn y canol yn arbed unrhyw ocsigen rhag treiddio drwy’r beipen. Mae hefyd yn cadw ei siap yn dda iawn ac mae hyn yn gwneud gosod y peipiau yn llawer hawsach. Yn ogystal mae’r aliminiwm yn arbed unrhyw chwydd gyda gwres yn y beipen.
Y Manifold
Y Manifold sydd yn gyrru’r dwr cynnes trwy’r ‘zones’ gwahanol. Mae pob ‘loop’ yn cychwyn ac yn gorffen yn y manifold, sydd yn bwysig iawn yn golygu mai un cylch cyfan sydd o dan y llawr. Gall pob ‘zone’ gael ei osod gyda ‘actuator’ trydanol sydd wedi eu cysylltu gyda’r ‘Roomstat’ yn yr ystafell mae’r ‘Zone’ yna yn ei gynhesu. Oherwydd hyn gall pob ystafell gael ei reoli yn annibynol o’r ystafelloedd eraill, sy’n eich galluogi chi i gael tymheredd sy’n eich siwtio chi ym mhob ystafell.
Pam dewis system UnderFloor Heating?
Gan fod system Underfloor heating yn defnyddio’r llawr fel un gwresogydd mawr; mae’r ystafell yn cael ei gynhesu o’r llawr i fyny yn gyson ar hyd yr ystafell, yn lle cynhesu’r aer sydd wrth y to yn gyntaf, fel sydd yn digwydd gyda system radiadur cyffredin. Mae hyn yn golygu nad yw rhaid tymheredd y dwr gwresogi fod hanner mor uchel ag sydd ei angen gyda system radiadur cyffedin. Oherwydd hyn nid yw’r boiler yn gorfod gweithio mor galed, ac felly yn defnyddio llawer llai o ynni, sydd yn arbed i fyny at 40% oddi ar eich bil tannwydd.
‘Mi all sytem Underfloor Heating arbed i fynny at 40% oddi ar eich bill tanwydd pob blwyddyn’.
Oherwydd mai’r llawr sy’n gwresogi yr ystafell, heblaw y ‘Roomstat’ ar y wal, nid oes dim o’r system gwresogi yn y golwg. Y ‘Roomstat’ sy’n gwneud yn siwr bod yr ystafell y tymheredd yr ydych chi eisiau iddo fod. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw radiadur ar y waliau nag ar eich ffordd. Mae hyn yn rhyddhau wal ac yn rhoi mwy o ryddid i chwi pan yn penderfynu safle eich dodrefn, sydd yn fantais arall o gael system ‘Underfloor Heating’.
Daffodil Underfloor Heating- 0800 121 6290 - post@energy-efficiency-centre.com